Amdanom ni
Hoffech chi addysg gynnar cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn? Dewch i Gylch Meithrin y Bont-faen!
Yng Nghylch Meithrin y Bont-faen, rydym yn cynnig amgylchedd diogel a gofalgar, lle caiff plant ddysgu drwy chwarae. Rydym yn cefnogi’r plant i fod yn hyderus ac i allu meddwl yn annibynnol, ac yn datblygu eu sgiliau Cymraeg ym mhob peth a wnawn.
Mae gennym berthynas gref ag Ysgol Iolo Morganwg yn y Bont-faen, ac rydym yn cynnig gofal cofleidiol ar gyfer plant yn y Dosbarth Meithrin. Mae’r plant wrth eu boddau’n cael eu casglu o’r Ysgol ar y bws bach, sy’n eu cludo’n ddiogel i Gylch Meithrin y Bont-faen (Mae aelod o staff y Cylch ar y bws i ofalu am y plant).
Rydym yn cynnal cyswllt agos â’r rhieni er mwyn rhannu gwybodaeth am ddatblygiad eich plentyn yn y Cylch. Rydym hefyd yn cynnig digonedd o achlysuron cymdeithasol lle gallwch ddod i adnabod y staff a’r teuluoedd eraill, a chael gweld rhai o’r gweithgareddau a’r dysgu seiliedig ar y cwricwlwm y mae ein plant yn mwynhau yma yng Nghylch Meithrin y Bont-faen.
Croeso cynnes i deuluoedd di Gymraeg hefyd!
Rydym yn cynnal Cylch Ti a Fi, grwp babanod a phlant bach, sy'n cyfarfod bob bore dydd Llun 0930-1100 yn y Cylch. Dewch i chwarae, canu a chymdeithasu dros baned.
Rydym yn derbyn plant o 2 flwydd oed, ac yn cynnig dewis hyblyg o sesiynau.
Amseroedd y sesiwn
Diwrnod llawn: 08:00 - 18:00. yn cynnwys brecwast, 2 x byrbryd a pryd o fwyd poeth am te - £55
Sesiwn bore bach: 09:00 - 11:30. Yn cynnwys 1 x byrbryd- £23
Sesiwn bore estynedig: 08:00 - 1:00. Yn cynnwys 1 x byrbryd ac mae'r plant yn dod a bocs brechdannu - £38
Sesiwn diwrnod bach 08:00 - 15:00. Yn cynnwys brecwast a s x byrbryd - £44
Gofal cofleidiol
Ar hyn o bryd rydym yn casglu plant o Ysgol Iolo Morgannwg er mae croeso i chi gollwng eich plentyn atom yng Nghylch Meithrin y Bont-faen.
Gofal cofleidiol diwrnod llawn
Clwb brecwast 08.00 - 09.00 gyda Tacsi i Ysgo Iolo Morgannwg.
Casglu o'r ysgol am 12.00 mewn tacsi a'i gludo i'r Cylch tan 18.00 - £43 & £3 ffi tacsi
Sesiwn gofal cofleidiol prynhawn
Sesiwn prynhawn 12:00 - 15:00 £23 & £3 ffi tacsi.